Mae tua 70 o ddiffoddwyr wedi bod yn brwydro tân ym Marchnad enwog Camden Lock yn Llundain.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r atyniad poblogaidd toc cyn hanner nos ddydd Sul ar ôl i’r tân ddechrau mewn adeilad ger Stablau Camden.

Roedd ’na bryderon y gallai’r tân achosi ffrwydradau petai’n lledu i fwytai cyfagos.