Tŵr Grenfell
Mae’r cyn-farnwr sy’n arwain yr ymchwiliad i achos tân Tŵr Grenfell yn Llundain wedi dweud ei fod yn barod i ystyried achosion “ehangach” y tan yn sgil pryderon gan oroeswyr y trychineb am sgôp yr ymchwiliad.

Mae  Syr Martin Moore-Bick eisoes wedi dweud y bydd ei ymchwiliad yn cael ei gyfyngu i achosion y tân, pam ei fod wedi lledu mor gyflym, a sut y gellir osgoi digwyddiad tebyg yn y dyfodol.

Ond mae grwpiau sy’n cynrychioli goroeswyr wedi dweud bod yn rhaid ehangu sgôp yr ymchwiliad i ystyried materion eraill, gan gynnwys honiadau bod pryderon trigolion am ddiogelwch tân wedi cael eu hanwybyddu gan yr awdurdodau.

Cafodd o leiaf 80 o bobol eu lladd yn y tân ym mis Mehefin.