Mae diffoddwyr yn ceisio diffodd fflamau yn dilyn tân mewn bloc o fflatiau yn nwyrain Llundain.
Digwyddodd y tân ar drydydd llawr yr adeilad, ac mae wedi lledu i’r to.
Cafodd y gwasanaeth tân ei alw i’r adeilad yn Bow Wharf, Ffordd Wennington toc ar ôl 11 o’r gloch y bore ma.
Mae 12 injan dân wedi ymateb.