Mae dyn yn ei 20au wedi marw, a thri o bobol eraill wedi derbyn triniaeth oherwydd anafiadau sy’n bygwth eu bywydau, yn dilyn adroddiadau o ymladd yn Essex.

Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill wedi i blismyn ddod o hyd i’r dyn wedi’i drywanu yn ei frest yn Grays. Roedd wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae tri dyn yn cael eu trin yn Ysbyty Basildon.

Fe ddigwyddodd yr ymladd tua 12.35yb ddydd Sadwrn, a’r gred ydi fod yna gysylltiad rhwng y gwffas ag achos arall o ymladd yn Chafford Hundred, lle daethpwyd o hyd i fachgen 17 oed yn anymwybodol tua 1.55yb.