Syr Martin Moore-Bick, cadeirydd ymchwiliad cyhoeddus Twr Grenfell, (Llun: Philip Toscano/PA Wire)
Mae’r barnwr sy’n arwain yr ymchwiliad cyhoeddus i’r tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain wedi mynegi amheuon na fydd yr ymchwiliad yn ddigon eang i fodloni goroeswyr y trychineb.

Fe deithiodd  Syr Martin Moore-Bick, a gafodd ei eni yng Nghymru, i safle’r trychineb yng ngogledd Kensington bore ma, gan gwrdd â’r rhai a lwyddodd i ddianc rhag y tân.

Yn dilyn y cyfarfod dywedodd cyn-farnwr y Llys Apel: “Rydw i wedi cael cais i gynnal yr ymchwiliad yma ar y sail y byddai’n cael ei gyfyngu i’r problemau’n ymwneud a dechrau’r tân a’r modd yr oedd wedi lledu’n gyflym, er mwyn gwneud argymhellion ynglŷn â sut y gellir osgoi’r math yma o beth rhag digwydd yn y dyfodol.

“Rwy’n ymwybodol iawn bod y trigolion a phobl leol eisiau ymchwiliad llawer ehangach ac rwy’n deall yn iawn pam eu bod nhw eisiau hynny – ond rwy’n amheus ai fy ymchwiliad i yw’r ffordd iawn o gyflawni hynny.”

Dywedodd y byddai’n ystyried y mater ac yn gwneud argymhelliad yn y man.

Mae ’na alwadau i gyhoeddi’r canfyddiadau cychwynnol i achos y tân yn sgil pryderon y gall yr ymchwiliad gymryd blynyddoedd i’w gwblhau.

Yn ôl Syr Martin Moore-Bick mae’n gobeithio gallu cyhoeddi adroddiad cychwynnol o fewn blwyddyn.

“Dadleuol”

Dywedodd ei fod wedi’i “synnu fy mod yn cael fy nisgrifio fel barnwr ‘dadleuol’,”  gan gyfeirio at achos yn 2014 lle’r oedd wedi ochri gyda Chyngor Dinas Westminster a dyfarnu y dylai mam i bump o blant, Titina Nzolameso, gael ei hail-gartrefu 50 milltir i ffwrdd.

Cafodd ei ddyfarniad ei wyrdroi yn y Goruchaf Lys yn ddiweddarach.

Gan fod pwysau i ddod o hyd i gartrefi parhaol i drigolion Tŵr Grenfell, mae ’na bryderon y gallai ei gysylltiad â’r achos gynyddu’r sensitifrwydd ynghylch y mater.