Twr Grenfell Llun: Wikipedia
Fe fydd yr ymchwiliad cyhoeddus i drychineb Tŵr Grenfell yn cael ei arwain gan farnwr Uchel Lys sydd wedi ymddeol, Syr Sir Martin Moore-Bick, fe gyhoeddwyd heddiw.

Mae’n debyg bod Syr Martin Moore-Bick wedi’i eni yng Nghymru cyn symud i Loegr i gael ei addysg.

Fe fydd yn gyfrifol am ymchwilio i achos y tân a laddodd o leiaf 80 o bobl yng ngorllewin Llundain yn gynharach y mis hwn.

Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi mynnu y bydd trigolion yn cael mynegi barn ynglŷn â chyfeiriad yr ymchwiliad.

Dywedodd bod angen ymchwiliad llawn sy’n cael ei arwain gan farnwr er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn y bloc o fflatiau yn cael ei “ymchwilio’n drwyadl.”

Yn sgil y trychineb, mae profion diogelwch tân wedi cael eu cynnal ar ddeunydd allanol ar adeiladau uchel ar draws y Deyrnas Unedig gyda 120 yn methu’r profion hynny.

Yn y cyfamser fe fydd angladd un o’r rhai fu farw yn y tân – Tony Disson, 65 – yn cael ei gynnal amser cinio heddiw yng ngorllewin Llundain.