Heddlu arfog ger mosg Finsbury Park, Llundain wedi'r ymosodiad (Llun: PA)
Cafodd munud o dawelwch ei gynnal am hanner dydd heddiw er mwyn cofio’r rhai gafodd eu heffeithio gan ymosodiad ger mosg yng ngogledd Llundain, wythnos ddiwethaf .

Roedd fan wedi cael ei gyrru’n fwriadol at dorf o bobol ger mosg yn Finsbury Park ychydig wedi hanner nos ar 19 Mehefin.

Bu farw dyn 51 oed yn y fan a’r lle, a chafodd 11 o bobol eu hanafu yn ystod yr ymosodiad.

Mae Darren Osborne, 47, o Gaerdydd ond sy’n dod o Weston-super-Mare yn wreiddiol, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio ac o geisio llofruddio ynghyd a chyhuddiadau yn ymwneud a brawychiaeth.

Mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys yr Old Bailey ddydd Mawrth.

Mae’r ymosodiad yn cael ei drin fel digwyddiad brawychol gan yr Heddlu Metropolitan.

Hwn oedd y pedwerydd ymosodiad brawychol yn y Deyrnas Unedig o fewn tri mis, gan ddilyn ymosodiadau yn San Steffan, Manceinion a London Bridge.