Plismon tu allan i'r eiddo ym Mhentwyn, Caerdydd a gafodd ei archwilio yn dilyn ymosodiad ger mosg yn Finsbury Park, Llundain (Llun: Ben Birchall/PA Wire)
Mae’r heddlu’n parhau i holi dyn 47 oed mewn cysylltiad â’r ymosodiad ger mosg yn Llundain yn gynnar ddydd Llun.

Yn y cyfamser mae teulu’r dyn a gafodd ei arestio yn sgil y digwyddiad, Darren Osborne, o Gaerdydd, wedi dweud ei fod wedi “cael problemau” ers peth amser.

Mewn datganiad ar ran y teulu dywedodd Ellis Osborne, 26, nai Darren Osborne bod y teulu mewn “sioc” a’u bod yn “methu credu’r peth.”

Cafodd y tad i bedwar o blant o Bentwyn, Caerdydd, ei arestio ar ôl i gerddwyr gael eu targedu gan ddyn yn gyrru fan ger Mosg Finsbury Park yng ngogledd Llundain yn gynnar ddydd Llun, wrth i nifer o addolwyr adael cwrdd gweddi hwyr.

Yn ôl llygad dystion roedd y dyn wedi gweiddi ei fod eisiau “lladd Mwslimiaid” pan gafodd ei ddal gan aelodau o’r cyhoedd tu allan i’r mosg.

Cafodd naw o bobl eu hanafu a dau o bobl eraill eu trin am fan anafiadau ar y safle.

Bu farw un dyn ar y safle ond mae’r heddlu’n dal i geisio darganfod a oedd wedi marw o ganlyniad i’r ymosodiad neu o achosion naturiol gan ei fod wedi bod yn cael cymorth cyntaf cyn y digwyddiad.

Mae’r dyn wedi’i arestio ar gyhuddiad  o gynllwynio, paratoi a gweithredu brawychiaeth, ynghyd a llofruddio a cheisio llofruddio.