Llys yr Old Bailey yn Llundain Llun: Wicipedia
Mae dyn o Abertawe wedi’i garcharu am bum mlynedd a phedwar mis am fod â dogfennau brawychol yn ei feddiant

Yn Llys yr Old Bailey heddiw, cyfaddefodd Lee Griffiths, 26 oed, i bum achos o feddu ar wybodaeth a allai fod o gymorth i rywun fyddai am gyflawni gweithredoedd brawychol.

Clywodd y llys ei fod wedi cael gorchymyn ysbyty yn 2011 ar ôl ceisio ymosod ar ei fam. Ar ôl cael ei ryddhau, a thra ei fod yn byw mewn cartref preswyl The Beeches ar gyfer pobol sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, clywodd y llys ei fod wedi cael ei radicaleiddio.

Cafodd Lee Griffiths o Glydach ei arestio ym mis Ionawr eleni wedi i’r heddlu gynnal cyrch ar ei gartref a dod o hyd i ddeunydd eithafol yn ei ystafell wely.

“Beth bynnag yw natur problem iechyd meddwl y diffynnydd, rwy’n derbyn ei fod yn fregus ond mae hefyd yn beryglus,” meddai’r Barnwr wrth ei ddedfrydu.

“Mae hefyd wedi dangos y gall fod yn hynod dreisgar am ddim rheswm ac mae ei gredoau ac iddo gael ei radicaleiddio  yn destun o bryder mawr.”