Y Goruchaf Lys (Llun: Gwefan y llys)
Mae rhieni plentyn sy’n dioddef o gyflwr genetig prin, wedi bygwth gwneud cwyn i Wasanaeth Erlyn y Goron os nad yw doctoriaid yn parhau i gynnal ei driniaeth cynnal bywyd, clywodd y Goruchaf Lys heddiw.

Mae Chris Gard a Connie Yates o Bedfont, gorllewin Llundain, eisiau i’w plentyn 10 mis oed, Charlie Gard,  dderbyn triniaeth arbrofol yn America.

Yn ôl yr ysbyty yn Llundain sy’n gofalu am y plentyn, Ysbyty Plant Great Ormond Street, ni fyddai’r driniaeth yn gwella ei gyflwr genetig prin a dylai ei driniaeth cynnal bywyd ddod i ben.

Mae ei rieni wedi gofyn i Lys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg ystyried eu hachos, ar ol colli eu brwydr yn yr Uchel Lys, y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys.

Mae’r beirniaid yn Strasbwrg wedi dyfarnu y dylai’r driniaeth cynnal bywyd barhau tan ganol nos heno fel bod cyfreithwyr y cwpwl yn gallu paratoi eu dadleuon cyfreithiol.

Fe allai’r barnwyr fynnu bod triniaeth cynnal bywyd Charlie Gard yn para am gyfnod hirach fel bod y llys yn cael cyfle i ystyried eu cais.

Ond mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli arbenigwyr yn Ysbyty Great Ormond Street wedi mynegi pryderon am y gorchymyn i barhau a’i driniaeth.

Mae tri barnwr yn y Goruchaf Lys yn ystyried eu pryderon mewn gwrandawiad yn Llundain.