Theresa May (Llun o'i chyfri Twitter)
Mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau fod yr heddlu’n credu bod  y dyn wnaeth ymosod ar addolwyr ger mosg yng ngogledd Llundain wedi gweithredu wrth ei hun.

Daw cyhoeddiad Theresa May wedi iddi gadeirio cyfarfod brys o bwyllgor argyfyngau Cobra y bore yma gan ddweud na fydd “casineb a malais o’r math hwn byth yn llwyddo.”

Mae’n debyg nad oedd yr ymosodwr yn hysbys i’r gwasanaethau diogelwch, meddai’r Gweinidog Diolgelwch Ben Wallace.

Mae Comisiynydd yr Heddlu Metropolitan Cressida Dick wedi dweud bod y digwyddiad “yn amlwg yn ymosodiad ar Fwslimiaid.”

Bu farw dyn a chafodd 8 o bobl eu cludo i’r ysbyty ar ôl i fan gael ei gyrru’n fwriadol at gerddwyr ger mosg yn Finsbury Park yn gynnar y bore ’ma.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel ymosodiad brawychol, gydag adroddiadau bod y fan wedi’i llogi gan gwmni Pontyclun Van Hire ym Mhont-y-clun ger Caerdydd. Mewn datganiad mae’r cwmni wedi dweud eu bod yn cydweithredu gydag ymchwiliad yr heddlu a’u bod wedi’u “synnu a’u tristau” o glywed am yr ymosodiad.

‘Rhannu’r un nod sylfaenol’

Dywedodd Theresa May y bydd yr heddlu’n parhau i asesu anghenion diogelwch mosgiau a darparu unrhyw ffynonellau ychwanegol sydd eu hangen.

“Roedd hwn yn ymosodiad ar Fwslimiaid yn eu lle addoli, ac fel gyda brawychiaeth yn ei holl ffurf, mae’n rhannu’r un nod sylfaenol. Mae’n ceisio ein gyrru ar wahân a thorri’r cysylltiadau gwerthfawr o undod a dinasyddiaeth rydyn ni’n eu rhannu,” meddai Theresa May.

“Byddwn ni ddim yn gadael i hyn ddigwydd,” meddai gan ddweud: “mae’n ein hatgoffa fod brawychiaeth, eithafiaeth a chasineb yn dod mewn nifer o wahanol ffurfiau ac mae’n rhaid i’n penderfyniad i’w daclo fod yr un peth pwy bynnag sy’n gyfrifol.”