Tŵr Grenfell Llun: Wikipedia
Mae’r nifer sydd wedi marw o ganlyniad i’r tân yn Nhŵr Grenfell yr wythnos diwethaf wedi codi i 79 o bobol, yn ôl datganiad diweddara’r heddlu.

Cadarnhaodd pennaeth Heddlu’r Metropolitan, Stuart Cundy, fod pump o bobol wedi’u hadnabod yn ffurfiol, a bod y gweddill ar goll ac yn cael eu rhagdybio’n farw.

Ychwanegodd ei bod yn bosib i nifer y meirw newid eto, ond na fyddai mor sylweddol â’r newid dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd mai’r “gwirionedd dychrynllyd” yw efallai na fydd hi’n bosib adnabod yr holl ddioddefwyr.

Munud o dawelwch

Daw’r cyhoeddiad heddiw wedi i funud o dawelwch gael ei gynnal am 11yb i gofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau ac wedi’u heffeithio gan y tân yng ngogledd Kensington yr wythnos diwethaf.

Cyhoeddodd y Llywodraeth ddydd Sul y byddai’r teuluoedd sydd wedi’u heffeithio yn cael o leiaf £5,500 o gyllid brys – a daw hyn o’r cyllid o £5miliwn wnaeth y Prif Weinidog Theresa May ei gyhoeddi ddydd Gwener.