Cwmni Pontyclun Van Hire, lle cafodd y fan a gafodd ei defnyddio yn yr ymosodiad ger mosg Finsbury Park, Llundain ei llogi (Llun: Claire Hayhurst/PA Wire)
Mae dyn wedi marw ac mae 8 o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty ar ôl i fan gael ei gyrru’n fwriadol at gerddwyr ger mosg yng ngogledd Llundain yn gynnar y bore ma.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel ymosodiad brawychol, meddai’r heddlu.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad y tu allan i’r Muslim Welfare House ger mosg Finsbury Park am 12.20yb ddydd Llun.

Yn ôl llygad dystion roedd y dyn wedi gwneud sylwadau am ladd Mwslimiaid.

Mae lluniau o’r fan yn dangos ei bod wedi cael ei llogi gan gwmni Pontyclun Van Hire ym Mhont-y-clun ger Caerdydd, yn ôl adroddiadau. Mae’r heddlu’n bwriadu holi’r cwmni y bore ma.

Cafodd gyrrwr y fan ei ddal gan aelodau o’r cyhoedd yn dilyn y digwyddiad yn Heol Seven Sisters, nes i’r heddlu gyrraedd a’i arestio.

Cyfarfod brys o Cobra

Dywedodd yr Heddlu Metropolitan bod un dyn wedi marw yn y fan a’r lle a bod swyddogion yn y broses o roi gwybod i’w deulu. Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yn ddiweddarach.

Cafodd 8 o’r bobl gafodd eu hanafu eu cludo i dri ysbyty gwahanol a chafodd dau eu trin ar y safle am fân anafiadau.

Mae dyn 48 oed wedi cael ei arestio gan yr heddlu ar amheuaeth o geisio llofruddio. Cafodd ei gludo i’r ysbyty fel rhagofal ac fe fydd asesiad iechyd meddwl yn cael ei gynnal, meddai’r heddlu.

Mae’r  digwyddiad yn cael ei drin fel ymosodiad brawychol ac mae’r ymchwiliad yn cael ei gynnal gan yr uned gwrth-frawychiaeth.

Fe fydd y Prif Weinidog Theresa May yn cynnal cyfarfod o’r pwyllgor argyfyngau Cobra y bore ma.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod cyfnod prysur y tu allan i’r mosg oherwydd cyfnod y Ramadan.

Mae cynnydd wedi bod mewn troseddau casineb ers yr ymosodiadau ar Arena Manceinion a London Bridge ac mae Cyngor Mwslimiaid Prydain wedi galw am fesurau diogelwch ychwanegol y tu allan i fosgiau.