Mae dyn wedi marw yn dilyn tân ffyrnig ben bore mewn teras yn ne Lloegr.

Fe gafodd dynes ei deffro wrth i fwg dreiddio i’w fflat o’r fflat uwchben yn Southampton. Roedd hynny toc cyn 4 o’r gloch y bore.

Fe gafodd dyn 61 oed ei gario allan o’i fflat llawr cyntaf gan ymladdwyr tân, a’i gludo i’r ysbyty. Ond bu farw yn ddiweddarach.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Hampshire wedi cadarnhau fod y wraig a oroesodd y digwyddiad yn derbyn triniaeth o ganlyniad i anadlu mwg.

Roedd y fflamau yn llosgi’n ffyrnig, medden nhw, ond fe lwyddodd ymladdwyr i gael mynediad yn weddol ddi-rwystr i fflat y dyn, cyn ei drosglwyddo i ofal y Gwasanaeth Ambiwlans.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod achos y tân.