Mae Cyngor Caerdydd wedi mynnu fod fflatiau tŵr y brifddinas â chladinau o “ddeunydd gwrthfflamychol”, wrth i’r trafod yn dilyn tân yn Nhwr Grenfell yn Llundain roi’r bai ar gladin rhad oedd yn gorchuddio’r bloc o fflatiau.

Hyd yma mae heddlu wedi cadarnhau fod o leiaf 30 o bobol wedi marw yn dilyn tân mewn tŵr fflatiau yn Kensington, gorllewin Llundain, ac mae tua nifer fawr o bobol ar goll o hyd.

Cladin â chraidd plastig – yn hytrach na chraidd gwrthfflamychol – oedd ar furiau allanol yr adeilad yn ôl rhai adroddiadau, ac mae nifer wedi awgrymu mai’r cladin yma wnaeth alluogi i’r tân i ledaenu mor gyflym.

Deunydd gwrth-dân”

“Nid yw’r Cyngor wedi altro cladinau allanol unrhyw un o’i fflatiau tŵr yn ddiweddar,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.

“Deunydd gwrth-dân, traddodiadol yw cladinau’r adeiladau. Wrth gwrs, fe fydd y Cyngor yn adolygu trefniadau cynlluniau’r dyfodol er mwyn sicrhau diogelwch tenantiaid.”

Yn ôl y Cyngor, mae’n cynnal asesiadau risg tân ar bob un o’u fflatiau tŵr ac mae’r asesiadau’n cael eu hadolygu bob chwe mis.