Mae chwech o bobol wedi marw yn dilyn y tân mewn bloc o fflatiau yng ngorllewin Llundain yn ystod oriau mân bore Mercher.

Yn ôl Scotland Yard, mae disgwyl i’r nifer hynny godi wrth i’r ymchwiliadau barhau ar adeilad Grenfell Tower yn Kensington.

Mae’n debyg i’r tân ddechrau ychydig wedi 1yb dydd Mercher gyda 200 o swyddogion tân wedi’u hanfon i’r adeilad 27 llawr.

Mae’r adeilad yn cynnwys 120 o gartrefi ac mae wedi’i adnewyddu yn ddiweddar ar gost o £8.6 miliwn gyda’r gwaith yn cwblhau ym mis Mai y llynedd.

Mae pobol yn Llundain yn cael eu hannog i ddefnyddio’r gwasanaeth iechyd “yn ddoeth” heddiw wrth i ddioddefwyr gael eu trin yn ysbytai’r brifddinas.

Mae adroddiadau gan llygad-dystion yn cynnwys gweld babi yn cael ei ddal gan aelod o’r cyhoedd ar ôl cael ei ollwng o’r “nawfed neu’r degfed llawr.”