Rhiannon Haines (Llun - drwy law Heddlu Dyfed Powys)
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth am ferch 17 oed sydd ar goll o Aberystwyth.

Cafodd Rhiannon Haines ei gweld diwethaf yn ardal Coedlan y Parc, Aberystwyth tua 4.30yh ddydd Llun (Mehefin 12).

Mae lle i gredu ei bod hi’n parhau yn ardal Aberystwyth, ond mae’r heddlu’n esbonio fod ganddi gysylltiadau yn Aberdaugleddau, Aberteifi a Llanbed hefyd.

Mae’n cael ei disgrifio yn ferch 5 troedfedd 4 modfedd gyda gwallt coch, golau. Cafodd ei gweld diwethaf yn gwisgo hwdi Adidas gyda streipiau glas, legins du ac esgidiau sodlau gwyn.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei lleoliad neu sydd wedi ei gweld gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 425 Mehefin 12.