Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i ddyn gael ei daro gan dram ym Manceinion.

Yn ôl Heddlu Manceinion cafodd swyddogion eu galw i orsaf Fictoria yng nghanol y ddinas toc wedi 7.50yh ddydd Sul, yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad.

Roedd y gwasanaethau brys yn bresennol ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Mae dynes 31 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae hi’n parhau i fod yn y ddalfa.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 2139.