Mae bachgen yn ei arddegau wedi cael ei achub ar ôl disgyn i mewn i chwarel yn Sir Benfro.

Cafodd y gwasanaeth tân ac achub o Hwlffordd ac Aberdaugleddau eu galw nos Sul i ardal Tiers Cross wedi i fachgen ddisgyn i chwarel.

Mae bellach wedi ei gludo i’r ysbyty ond does dim gwybodaeth bellach am ei anafiadau.