Mae’r Heddlu yn Llundain wedi arestio person arall mewn cysylltiad â’r ymosodiad ar London Bridge.

Cafodd dyn 19 oed ei arestio ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd brawychol yn dilyn cyrch mewn eiddo yn Barking, dwyrain Llundain nos Sul, meddai Scotland Yard.

Roedd ditectifs o uned gwrth-frawychiaeth Heddlu Metropolitan yn chwilio’r eiddo ac un arall yn Barking lle cafodd dyn 28 oed ei arestio ddydd Sul.

Mae cyfanswm o naw o ddynion bellach yn cael eu cadw yn y ddalfa ers yr ymosodiad yn London Bridge ar 3 Mehefin.

Cafodd wyth o bobl eu lladd a dwsinau eu hanafu ar ôl i Khuram Butt, Rachid Redouane a Youssef Zaghba yrru fan at gerddwyr cyn ymosod ar bobl gyda chyllyll.

Mae’r heddlu wedi arestio 21 o bobl fel rhan o’r ymchwiliad ac mae 12 o bobl wedi cael eu rhyddhau yn ddigyhuddiad.