Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am Daniel Davies, 28 o Lanelli.

Dydy e ddim wedi cael ei weld ers Mehefin 2.

Fe fu’r heddlu’n chwilio amdano fe yn ardal Dociau’r dref dros y penwythnos.

Mae ei deulu a’i ffrindiau wedi bod yn apelio am wybodaeth drwy wefannau cymdeithasol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.