Cressida Dick
Mae Prydain wedi cael ei tharo gan don “ddigynsail” o ymosodiadau brawychol, ac fe allai un fod yn arwain at y llall, rhybuddiodd pennaeth Scotland Yard.

Dywedodd Cressida Dick bod yr awdurdodau yn wynebu “realiti newydd” ar ôl tri ymosodiad brawychol yn y Deyrnas Unedig o fewn 10 wythnos.

Yn yr ymosodiad diweddaraf cafodd saith o bobl eu lladd a 48 eu hanafu ar ôl i lori yrru at gerddwyr yn ardal London Bridge nos Sadwrn cyn i dri ymosodwr drywanu pobl gyda chyllyll.

Cafodd y tri ymosodwr eu saethu’n farw gan wyth plismon arfog.

Daw’r ymosodiad ar ôl digwyddiadau tebyg yn San Steffan ym mis Mawrth ac ym Manceinion ym mis Mai.

“Digynsail”

Dywedodd Cressida Dick, sydd wedi bod yn gwasanaethu gyda’r heddlu ers mwy na 30 mlynedd, bod yr ymosodiadau yn “ddigynsail yn ystod fy ngyrfa.”

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad yn London Bridge, tra bod ’na bryder y gallai’r ymosodiadau arwain at ragor o rai tebyg.

Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4 ei fod “bendant yn bosibilrwydd” bod yr ymosodiadau yn annog eraill i gynnal ymosodiadau tebyg.

Wrth i ymchwiliad eang gael ei gynnal gan y gwasanaethau diogelwch am y trydydd tro o fewn wythnosau, dywed heddlu Llundain eu bod nhw wedi dod o hyd i gasgliad anferth o ddeunydd fforensig yn dilyn cyrch ar ddau eiddo yn nwyrain Llundain yn oriau man y bore ma.

Cafodd 11 o bobl eu harestio ddydd Sul ac maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa.

Mae Cressida Dick wedi cadarnhau eu bod nhw’n gwybod pwy yw’r dynion oedd wedi cynnal yr ymosodiad ac y byddan nhw’n cyhoeddi eu henwau “mor fuan â phosib.”

Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi amddiffyn toriadau i’r heddlu gan fynnu bod gan yr Heddlu Metropolitan “adnoddau digonol” a’r gallu i fynd i’r afael a brawychiaeth.

Gwylnos

Roedd tri o swyddogion yr heddlu ymhlith y rhai gafodd eu hanafu ac mae 21 o bobl yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Ymhlith y dioddefwyr cyntaf i gael eu henwi mae Christine Archibald, o Ganada a symudodd i Ewrop i fod gyda’i dyweddi, a James McMullan, 32 oed, o Hackney yn Llundain.

Fe fydd gwylnos yn cael ei chynnal yn Llundain heno am 6yh i gofio’r rhai fu farw.