Alex Carlile (llun y Llywodraeth)
Fe wnaeth Llywodraeth Glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol gamgymeriad mawr wrth ddileu mesurau arbennig i reoli pobol oedd yn cael eu hamau o fod yn frawychwyr.

Dyna farn cyn-AS Rhyddfrydol Sir Drefaldwyn, Alex Carlile, a gafodd ei benodi yn 2001 i fod yn arolygwr annibynnol ar ddeddfau’n ymwneud â brawychiaeth.

Roedd y Gorchmynion Rheoli a fu’n gweithredu rhwng 2005 a diwedd 2011 wedi bod yn effeithiol, meddai, wrth gadw llygad ar bobol a oedd dan amheuaeth.

Fe gawson nhw’u dileu gan lywodraeth y glymblaid oherwydd pryderon am hawliau sifil ond, yn ôl yr Arglwydd Carlile, roedd hynny’n gamgymeriad difrifol.

‘Gwell na dim’

Nawr, mae’r bargyfreithiwr a’r QC galw ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May, i wneud defnydd llawn o’r hyn ddaeth yn eu lle nhw – Mesurau Atal ac Ymchwilio i Frawychaeth.

Er fod y rheiny’n llawer gwannach na’r Gorchymynion Rheoli, roedden nhw’n well na dim, meddai wrth y rhaglen radio Today.

“Dw i’n credu y gallai’r Gorchmynion fod wedi achub dwsinau o fywydau ac, yn fy marn i, roedd yn gamgymeriad difrifol gan lywodraeth y glymblaid i gael gwared ar Orchmynion Rheoli a chreu rhywbeth mwy glastwraidd.”

Roedd symudiadau 53 o bobol wedi cael eu cyfyngu gan y Gorchmynion Rheoli; dim ond 7 o bobol sydd o dan oruchwyliaeth trwy;’r Mesurau newydd.

  • Mae Alex Carlile yn byw yn Aberriw yn Sir Drefaldwyn a bellach yn aelod di-blaid yn Nhŷ’r Arglwyddi.