Heddlu Canol Manceinion yn chwilio Saddleworth Moor yn 1986 am gorff Keith Bennett a gafodd ei lofruddio gan Ian Brady a Myra Hindley. (Llun: PA)
Mae cyfreithiwr Ian Brady wedi dweud y byddai “wedi synnu” petai llofrudd y Moors wedi cadw gwybodaeth rhag yr heddlu ynglŷn â lle cafodd corff y bachgen 12 oed, Keith Bennett, ei gladdu.

Mae Heddlu Canol Manceinion wedi dweud bod yr achos yn parhau ar agor.

Roedd Robin Makin wedi siarad gydag Ian Brady, 79, yn Ysbyty Seiciatryddol Ashworth ar Lannau Merswy llai na dwy awr cyn iddo farw nos Lun i drafod materion cyfreithiol a’r trefniadau ar gyfer ei angladd.

Dywedodd y cyfreithiwr nad oedd lleoliad corff Keith Bennett wedi cael ei drafod yn ystod y cyfarfod ac nad oedd erioed wedi ei holi ynglŷn â’r bachgen.

Roedd Keith Bennett yn un o bump o blant a gafodd eu harteithio a’u lladd gan Ian Brady a’i bartner Myra Hindley yn y 1960au. Corff Keith Bennett yw’r unig un sydd erioed wedi cael ei ddarganfod.

“Dim gwybodaeth”

Dywedodd Robin Makin wrth raglen Today ar Radio 4: “Fe fyddwn i’n synnu petai ganddo wybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol. Roedd wedi mynd i’r Moors amser hir yn ôl ac rwy’n credu petai wybodaeth ganddo, y byddai wedi ei rhannu bryd hynny.”

Ychwanegodd: “Rwy’n gobeithio’n fawr fod modd dod o hyd i’r gweddillion ond yn anffodus does gen i ddim gwybodaeth a allai helpu.”

Dywedodd Martin Bottomley, o Heddlu Canol Manceinion y byddai swyddogion yn gweithredu ar wybodaeth “credadwy” a allai eu helpu i ddod o hyd i gorff Keith Bennett.

“Ni fydd Heddlu Canol Manceinion fyth yn cau’r achos yma. Nid yw marwolaeth Brady yn newid hynny.”

Yn 1966 cafodd Ian Brady a Myra Hindley eu carcharu am oes am ladd John Kilbride, 12, Lesley Ann Downey, 10, ac Edward Evans, 17, yn 1966.

Yn ddiweddarach fe gyfaddefodd y ddau eu bod hefyd wedi llofruddio Pauline Reade, 16, a Keith Bennett, 12 oed.

Bu farw Myra Hindley yn y carchar yn 60 oed yn 2002.