Ian Brady Llun: PA
Mae’r llofrudd plant y Moors Ian Brady wedi marw yn 79 oed ar ôl treulio mwy na phum degawd dan glo.

Cafodd ei garcharu ar ôl iddo arteithio a lladd pump o blant gyda’i bartner Myra Hindley.

Roedd Brady wedi cael ei gadw yn ysbyty diogel Ashworth ar Lannau Merswy ers 1985 lle bu farw nos Lun am 6.03yh.

Oriau’n unig cyn iddo farw, cafodd ei annog “i wneud y peth iawn” a datgelu lle’r oedd wedi cuddio corff un o’r plant ond nid oedd wedi gwneud hynny.

Cafodd  Ian Brady ei garcharu am ladd John Kilbride, 12, Lesley Ann Downey, 10, ac Edward Evans, 17, yn 1966.

Yn ddiweddarach fe gyfaddefodd iddo lofruddio Pauline Reade, 16, a Keith Bennett, 12 oed.

Dywedodd llefarydd bod y llofrudd, a gafodd ei eni yn Glasgow, wedi bod yn defnyddio’r enw Ian Stewart-Brady cyn iddo farw a’i fod wedi bod yn cael ocsigen.

“Hunllef”

Yn ôl Terry Kilbride, brawd John Kilbride, “ni fydd unrhyw beth yn newid.

“Mae o wedi marw ond ry’n ni’n dal i orfod byw gyda’r hunllef mae o wedi’i adael ar ôl,” meddai mewn cyfweliad gyda’r Sun.

Ond i frawd Lesley Ann Downey, mae marwolaeth Brady wedi dod a rhywfaint  o gysur iddyn nhw.

Mewn cyfweliad gyda MailOnline, dywedodd Terry West eu bod wedi bod “yn aros am y diwrnod yma am gyfnod hir iawn.”

Ond meddai ei fod yn cydymdeimlo a brawd Keith Bennett, Alan, a’i deulu: “Mae hyn mwy na thebyg yn golygu na fyddan nhw byth yn gwybod lle cafodd ei gorff ei gladdu. Mae o [Brady] wedi mynd a hynny i’w fedd.”


Ian Brady a Myra Hindley Llun: PA
Brady a Hindley

Roedd troseddau Ian Brady a Myra Hindley, a fu farw yn y carchar yn 2002, wedi synnu’r genedl wrth i fanylion gael eu datgelu yn ystod yr achos llys ynglŷn â sut roedd y ddau wedi cipio plant oddi ar y stryd, eu cam-drin, a’u harteithio i farwolaeth.

Fe lwyddodd Brady i osgoi’r gosb eithaf ar ôl iddi gael ei diddymu fisoedd yn unig cyn iddo gyflawni’r troseddau. Cafodd ei garcharu am oes.

Yn 2013 fe wnaeth Brady gais i gael ei symud i garchar yn yr Alban fel na allai gael ei orfodi i fwyta fel yr oedd yn yr ysbyty, a lle y gallai farw os oedd yn dymuno hynny.

Ond cafodd ei gais ei wrthod ar ol i arbenigwyr meddygol yn Ashworth ddweud bod ganddo salwch meddwl difrifol a’i fod angen gofal mewn ysbyty.