Mynydd Tryfan yn Eryri
Mae dyn wedi marw wedi iddo gwympo wrth gerdded ar un o fynyddoedd Eryri ddoe.
Cwympodd y tad ar fynydd Tryfan ddydd Sul a chafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle daeth cadarnhad ei fod wedi marw.
Roedd y dyn a’i ferch, y credir sydd yn ei 20au, yn cerdded i lawr y mynydd pan wnaethon nhw benderfynu troi am yn ôl oherwydd roedd y llwybr yn rhy serth, meddai Christopher Lloyd o’r Tîm Achub Mynydd yn Nyffryn Ogwen.
Wrth ddringo yn ôl i fyny’r mynydd syrthiodd y dyn i lawr hafn ar yr ochr ogleddol. Wedi iddo gael ei ddarganfod gan ddringwr cafodd yr heddlu eu galw tua chanol dydd ddoe.
Dywedodd Christopher Lloyd bod y llwybr yn “heriol”.
Nid oedd y dyn yn dod o’r ardal leol, meddai’r heddlu.
“Rydym wedi hysbysu ei deulu am y digwyddiad ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad at ei deulu a’i ffrindiau,” meddai’r Cwnstabl Gethin Jones o Heddlu Gogledd Cymru.