Mae disgwyl i ddyn o Fae Cinmel fynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio ei bartner.

Cafodd Anthony James Bird, 48, ei gyhuddo nos Sul o lofruddio Tracy Kearns, 43 oed.

Nid oedd y fam i ddau o blant wedi cael ei gweld ers nos Sul, 7 Mai.

Daeth yr heddlu o hyd i’w chorff ddydd Sadwrn, 13 Mai.

Fe fydd Anthony Bird yn mynd gerbron Llys Ynadon Llandudno heddiw (dydd Llun, 15 Mai.)

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Neil Harrison: “Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Tracy yn ystod y cyfnod anodd hwn. Fe fyddan nhw’n parhau i gael cefnogaeth gan ein swyddogion arbenigol dros y dyddiau nesaf.”

Ychwanegodd: “Rwy’n ymwybodol o’r effaith mae’r digwyddiad wedi’i gael yn lleol a hoffwn ddiolch i gymuned Bae Cinmel am eu hamynedd a’u cefnogaeth dros y pum diwrnod diwethaf.”