Mae un person yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr A40 yn Sir Fynwy.

Mae’r ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad ar hyn o bryd yn dilyn y digwyddiad ger gwasanaethau Rhaglan am oddeutu 11.30 y bore ma.

Cafodd un person ei gludo i’r ysbyty ym Mryste.

Mae disgwyl i’r ffordd fod ynghau tan ganol y prynhawn.