Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad dynes 43 oed o Fae Cinmel wedi dod o hyd i gorff.

Dydy Tracy Kearns ddim wedi cael ei gweld ers tua 8 o’r gloch nos Sul ddiwethaf.

Cafodd dyn 48 oed ei arestio ddydd Iau ar amheuaeth o lofruddio’r fam i ddau o blant, ac mae e’n cael ei holi yn y ddalfa.

Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am Tracy Kearns ar ddarn o dir ger Tir Prince ac yn Nhywyn.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal yn ddiweddarach, ond dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod hyd yn hyn.