Mae timau arbenigol yn parhau i chwilio am Tracy Kearns, 43 oed o Fae Cinmel.

Dydy hi ddim wedi cael ei gweld ers tua 8 o’r gloch nos Sul diwethaf.

Ddydd Iau, cafodd dyn 48 oed ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddio.

Mae’r chwilio’n canolbwyntio ar ddarn o dir ger Tir Prince.

Mae hi’n cael ei disgrifio fel dynes 5’3″ a chanddi wallt golau at ei hysgwyddau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Gogledd fod yr ymchwiliad drws-i-ddrws yn parhau.