Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn marwolaeth dynes mewn parc gwyliau yn Abersoch neithiwr.

Bu farw’r ddynes ar ôl i dractor droi drosodd ym mharc gwyliau The Warren am oddeutu 7.20pm.

Cafodd ei thrin gan barafeddygon ond bu farw yn y fan a’r lle.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio am dystion, a dydy’r parc gwyliau ddim wedi’i gau yn dilyn y digwyddiad.

Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn trin y digwyddiad fel mater yn y gweithle, ond dydyn nhw ddim yn rheoli’r diwydiant hamdden ac felly bydd yr achos yn cael ei gyfeirio i Gyngor Gwynedd.