Mae merch 11 oed wedi marw ar ol iddi ddisgyn o atyniad dŵr ym Mharc Hamdden Drayton Manor, meddai Heddlu Swydd Stafford.
Fe syrthiodd y ferch, a oedd yn dod o ardal Caerlyr, o atyniad Splash Canyon yn y parc yn Tamworth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 2.18 prynhawn ma yn dilyn adroddiadau bod plentyn wedi cwympo i’r dŵr.
Cafodd y ferch ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Plant Birmingham ond bu farw’n fuan wedyn.
Dywedodd cyfarwyddwr Parc Hamdden Drayton Manor, George Bryan eu bod wedi “tristau’n ofnadwy” a bod eu “meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r ferch yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
Mae teulu’r ferch yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu.
Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad a chafodd yr atyniad ei gau wedi’r digwyddiad. Nid yw’n glir ar hyn o bryd a fydd y parc yn agor ddydd Mercher.