Stadiwm Principality yng Nghaerdydd (llun: Andrew King/CC 2.0)
Mae Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru wedi cydnabod fod ‘heriau’ yn eu hwynebu wrth i Gaerdydd gynnal rownd derfynol Cwpan y Pencampwyr ymhen mis.

Dywedodd Ken Skates fod “amgylchedd rhyngwladol heriol o ran diogelwch” a bod “digwyddiadau trychinebus wedi gwneud yr amgylchedd yn fwy difrifol yn yr wythnosau diwethaf.”

Esboniodd mai dyma fydd yr ymgyrch ddiogelwch fwyaf i Heddlu De Cymru a lluoedd cyfagos yng Nghymru a Lloegr ei gynnal ers Uwchgynhadledd NATO yn 2014.

“Mae’n anochel y caiff hyn effaith ar draffig a mynd a dod yn y ddinas, ond, yn amlwg, y flaenoriaeth yw sicrhau diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr.”

‘Barod am sioe enfawr’

Er hyn dywedodd fod y brifddinas yn “barod i gynnal sioe enfawr” gan ychwanegu y bydd y ffeinal ar Fehefin 3 yn “gyfle da” i economi Cymru.

“Bydd Cymru’n cael ei chyflwyno i gynulleidfa ryngwladol. Efallai y bydd rhai’n gwylio na fyddai wedi meddwl dod yma, neu fuddsoddi yma, o’r blaen,” meddai.

Dywedodd fod disgwyl i’r gêm ddenu tua 170,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r brifddinas, ac mae’r tlysau ar hyn o bryd ar daith o gwmpas Cymru.

Ailenwi’r Stadiwm

Yn ogystal, fe fydd Stadiwm y Principality yn cael ei hailenwi yn ‘Stadiwm Genedlaethol Cymru’ ar gyfer y digwyddiad am nad yw UEFA yn caniatáu i faes y ffeinal gario enw noddwr.

Cafodd y maes, sydd yn dal 74,500 o bobol, ei hailenwi’r llynedd ar ôl cael ei hadnabod fel Stadiwm y Mileniwm ers iddi agor yn 1999.