Llun: Heddlu Lloegr
Mae’r heddlu’n chwilio am “o leiaf dau” berson ar ôl i ddyn busnes gael ei saethu’n farw yn ystod byrgleriaeth aeth o’i le yn ei gartref.

Cafodd Guy Hedger, 61 oed, ei anafu’n ddifrifol yn ei gartref ym mhentref St Ives yn Dorset yn oriau man fore dydd Sul.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty ond bu farw o’i anafiadau yn fuan wedyn.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Kevin Connolly o heddlu Dorset eu bod yn credu bod y troseddwyr wedi mynd i’r tŷ “gyda’r bwriad o ddwyn a bod dyn diniwed wedi cael ei saethu o ganlyniad.”

Credir bod Guy Hedger yn byw yn y tŷ, gwerth £1 miliwn, gyda’i bartner Simon-Pierre Hedger-Cooper, 48.

Dywedodd yr heddlu bod ail berson a oedd yn yr eiddo adeg y digwyddiad “wedi’u heffeithio’n ddwys gan y digwyddiad” a’u bod yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

‘Talentog’

Mae llefarydd ar ran cwmni yswiriant Liverpool Victoria (LV=) wedi rhoi teyrnged i Guy Hedger, cyfarwyddwr marchnata a brand y cwmni, ac wedi estyn eu cydymdeimlad i’w deulu.

Cafodd ei ddisgrifio fel cyfarwyddwr marchnata “hynod dalentog” gan ychwanegu “roedd Guy yn allweddol wrth adeilad brand LV= ac fe fydd colled fawr ar ei ôl. Mae ein cydymdeimlad gyda’i deulu a’i anwyliaid yn ystod y cyfnod hynod o drist yma.”

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ tua 3.03 y bore yn dilyn adroddiadau bod o leiaf dau berson wedi torri mewn i’r tŷ.

Bu hofrennydd yr heddlu’n chwilio’r ardal am y troseddwyr, ond ni chafodd unrhyw un eu harestio.

Dywed Heddlu Dorset eu bod nhw’n dal i geisio darganfod beth yn union ddigwyddodd yn yr eiddo a pham fod Guy Hedger wedi cael ei saethu.

Ond nid ydyn nhw’n credu bod y troseddwyr yn ei adnabod.