Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i gynnal ymchwiliad yn dilyn ffrwgwd yn ystod gêm rygbi yn y Cymoedd ddydd Sadwrn.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i’r gêm yn erbyn Treharris a’r Tyllgoed ddydd Sadwrn yn dilyn “adroddiadau o aflonyddwch” ond ni chafodd unrhyw un eu harestio.

Mewn datganiad dywedodd Undeb Rygbi Cymru: “Byddwn yn dechrau’r trefniadau disgyblu arferol sydd yn cael eu gweithredu gennym ni ar ôl unrhyw gêm sydd yn dod i ben yn y fath fodd.

“Unwaith yr ydym wedi derbyn adroddiad y dyfarnwr, mi fyddwn yn gwahodd y ddau glwb i gyflwyno adroddiadau cyn y gwrandawiad disgyblu.”

Mae Heddlu De Cymru wedi galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth yn gysylltiedig â’r mater i gysylltu â nhw ar 101 a nodi’r rhif cyfeirnod 1700152511.