Rick Williams (Llun: Cyfrif Facebook Cefnogwyr Anabl Wrecsam (DSA)
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gôl-geidwad tîm pêl-droed anabl Wrecsam  a fu farw ym Mharc Tŷ Mawr yng Nghefn Mawr, Wrecsam brynhawn dydd Sul.

Cafodd Rick Williams, 31,  ei daro’n wael ar ôl bod yn nofio yn yr afon Dyfrdwy ac er bod aelodau o’r cyhoedd a’r gwasanaethau brys wedi ceisio ei achub bu farw yn y fan a’r lle.

Mewn datganiad ar gyfrif Facebook Cefnogwyr Anabl Wrecsam (DSA), caiff Rick Williams ei ddisgrifio fel dyn “â chalon aur” fyddai’n fodlon gwneud “unrhyw beth i unrhyw un.”

“Nid oes modd disgrifio’r cysylltiadau cryf sydd rhwng aelodau ein clwb – rydym yn deulu mawr,” meddai rheolwr tîm pêl droed Wrecsam DSA, Carl Austin.

“Mae colli unrhyw un o unrhyw oedran yn anodd ond mae colli rhywun iach sydd yn 31 oed yn anodd ei brosesu.”