'Archie' Taylor (trwy law Heddlu Dyfed-Powys)
Mae’r chwilio ffurfiol am forwr 90 oed o Geredigion wedi dod i ben.

Fe fethodd y gwasanaethau achub ddod o hyd i Arthur Roy Taylor ar ôl iddo ddiflannu ar y môr yn ystod y dydd ddydd Sadwrn.

Fe fu hofrennydd a phedwar tîm achub yn chwilio Bae Ceredigion amdano ddoe a neithiwr, ond heb lwyddiant.

Yn awr mae Gwylwyr y Glannau’n dweud ei bod yn annhebyg y bydd y chwilio ffurfiol yn ailddechrau.

Diflannu

Fe gafodd Arthur ‘Archie’ Taylor ei weld ddiwetha’ yn mynd ar ei gwch hwylio bychan yn Gwbert ger Aberteifi tua 9.30 fore Sadwrn.

Fe ddaethpwyd o hyd i’w gwch yn wag yn ardal Aberteifi ddiwedd y dydd – fe gafodd y gwasanaethau achub eu galw am 5.15 brynhawn Sadwrn ar ôl i’r morwr oedrannus fethu dychwelyd.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am luniau neu ffilmiau fideo a dynnwyd ar lan y môr yn yr ardal ddydd Sadwrn, rhag ofn fod cwch Archie Taylor i’w gweld ynddyn nhw.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi disgrifiad ohono – mae tua 5’4” o daldra ac yn fain. Roedd yn gwisgo siwmper las tywyll a siaced law lwyd tywyll.

Roedd dau gwch achub o Aberteifi ac Abergwaun hefyd yn rhan o’r chwilio.