Mae tri o bobol yn eu harddegau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn Mwslimaidd yn ne-ddwyrain Llundain ddydd Mawrth.

Cafodd Syed Jamanoor Islam, 20, ei drywanu am oddeutu 4.45pm, ac fe fu farw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Fe fu mewn ffrwgwd â’r tri yn ardal Mile End.

Cafodd y tri – sy’n 18, 17 a 15 oed – eu harestio’r bore ma yn Ne Swydd Efrog.

Mae’r dyn 18 oed wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.

Mae Heddlu Llundain wedi apelio am wybodaeth.