Angladd y plismon Keith Palmer, gafodd ei ladd yn ymosodiad Westminster (Llun: Ben Stansall/PA)
Mae miloedd o blismyn wedi ymgynnull ar strydoedd Llundain prynhawn ma ar gyfer angladd y plismon a gafodd ei lofruddio yn ystod ymosodiad Westminster.

Cafodd y Cwnstabl Keith Palmer, 48, ei drywanu i farwolaeth gan Khalid Masood tra roedd ar ddyletswydd ger Palas Westminster ar 22 Mawrth.

Cafodd ei arch ei gludo o Balas Westminster i Eglwys Gadeiriol Southwark ar gyfer yr angladd gyda dwsinau o ffyrdd cyfagos wedi’u cau i draffig ar gyfer y digwyddiad.

Bu heddluoedd ar draws y Deyrnas Unedig yn cynnal dwy funud o dawelwch am 2 o’r gloch prynhawn ma er cof amdano.

Roedd tua 50 o aelodau o deulu Keith Palmer yn bresennol, gan gynnwys ei wraig, ei blentyn, ei rieni a’i frawd a chwiorydd.

Roedd Comisiynydd Heddlu’r Met Cressida Dick hefyd yn yr angladd ar ddiwrnod cyntaf ei swydd newydd.

Cafodd sgriniau eu codi y tu allan i’r Eglwys Gadeiriol er mwyn i aelodau o’r cyhoedd gael gwylio’r gwasanaeth.

“Dyn hyfryd”

Cyn y gwasanaeth, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn mewn teyrnged i Keith Palmer: “roedd yn ddyn hyfryd, roedden ni i gyd yn ei weld bob dydd wrth fynd drwy’r giatiau i’r Senedd.

“Roedd yno’n gwenu, bob amser yn siarad gyda thwristiaid, siarad gydag ymwelwyr, a bob amser yn hynod o gwrtais.

“Bu farw wrth amddiffyn ein Senedd.”

Cafodd pedwar o bobl eraill eu lladd a dwsinau eu hanafu yn ystod yr ymosodiad ar 22 Mawrth. Cafodd yr ymosodwr Khalid Masood ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Bu farw Andreea Cristea, 31, Leslie Rhodes, 75, Kurt Cochran, 54, ac Aysha Frade, 44, pan yrrodd gar at gerddwyr ar Bont Westminster.