Gwylnos ar Bont Westminster i gofio'r rhai fu farw wythnos wedi'r ymosodiad (Llun: Anna Wojnilko/PA)
Fe fydd y plismon a gafodd ei lofruddio yn ymosodiad Westminster yn Llundain yn cael ei anrhydeddu yn ystod ei angladd heddiw.

Cafodd y wnstabl Keith Palmer, 48, ei drywanu i farwolaeth gan Khalid Masood tra roedd ar ddyletswydd ger Palas Westminster.

Fe fydd ei arch yn cael ei gludo o Balas Westminster i Gadeirlan Southwark ar gyfer yr angladd.

Mae disgwyl i filoedd o heddweision ymgynnull ar strydoedd Llundain ger y Gadeirlan cyn y gwasanaeth.

Cafodd pedwar o bobl eraill eu lladd a dwsinau eu hanafu yn ystod yr ymosodiad ar 22 Mawrth. Cafodd yr ymosodwr Khalid Masood ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Bu farw Andreea Cristea, 31, Leslie Rhodes, 75, Kurt Cochran, 54, ac Aysha Frade, 44, pan yrrodd gar at gerddwyr ar Bont Westminster.