Cressida Dick (Llun: PA)
Fe fydd pennaeth newydd Heddlu Llundain, Cressida Dick yn dechrau yn ei swydd ddydd Llun.

Cafodd ei phenodi’n olynydd i Syr Bernard Hogan-Howe yn dilyn ei ymddeoliad, ac mi gurodd hi dri ymgeisydd arall yn y ras.

Bydd hi’n gyfrifol am fwy na 43,000 o blismyn a chyllideb o £3 biliwn, a hi yw’r comisiynydd benywaidd cyntaf yn hanes yr heddlu a gafodd ei sefydlu 188 o flynyddoedd yn ôl.

Cafodd hi yrfa o dros 30 o flynyddoedd gyda’r heddlu cyn gadael yn 2015 pan gafodd ei phenodi i swydd yn y Swyddfa Dramor.

Gyrfa

Cafodd ei haddysgu ym Mhrifysgol Rhydychen, gan raddio mewn amaeth a choedwigaeth, a daeth yn gyfrifydd am gyfnod cyn ymuno â’r heddlu.

Roedd hi’n gwnstabl, yn sarjant ac yn arolygydd yn ne-orllewin a de-ddwyrain Llundain.

Symudodd i Heddlu Thames Valley yn 1995 cyn treulio tair blynedd yn gyfrifol am ardal Rhydychen.

Gadawodd yr heddlu am gyfnod er mwyn cwblhau cwrs Meistr yng Nghaergrawnt cyn dychwelyd yn 2001.

Roedd ganddi le blaenllaw yn yr ymdrechion plismona ar ôl ymosodiadau 9/11 a tswnami Dydd San Steffan yn 2004.

Achosion blaenllaw

Ond roedd hi hefyd yn gyfrifol am yr ymchwiliad a arweiniodd at saethu Jean Charles de Menezes yn farw yn 2005 ar ôl i’r heddlu ei gamgymryd am hunanfomiwr.

Daeth rheithgor i’r casgliad yn ddiweddarach nad oedd hi’n gyfrifol mewn unrhyw ffordd am ei farwolaeth.

Daeth hi’n is-gomisiynydd cynorthwyol yn 2007, a chomisiynydd cynorthwyol ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Mae hi hefyd wedi arwain uned wrth-frawychiaeth genedlaethol, yn ogystal â dathliadau Jiwbilî Brenhines Loegr a Gemau Olympaidd 2012, ac roedd hi’n flaenllaw yn yr ymchwiliadau i farwolaethau Stephen Lawrence a Lee Rigby.

Bydd hi’n ennill cyflog blynyddol o £230,000 – £40,000 yn llai na’r cynnig gwreiddiol gafodd hi.