Ras gychod (Llun: PA)
Mae disgwyl i’r ras gychod flynyddol rhwng prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt fynd yn ei blaen er i fom o’r Ail Ryfel Byd gael ei ddarganfod yn afon Tafwys brynhawn ddoe.

Cafodd yr heddlu eu galw i bont Putney ar ôl i’r bom gael ei ddarganfod gan aelod o’r cyhoedd ger man cychwyn y ras.

Dywedodd cyfarwyddwr y ras, Michelle Dite ddydd Sadwrn y byddai penderfyniad yn cael ei wneud ar ôl trafod y sefyllfa â’r heddlu.

Mae disgwyl i filoedd o bobol heidio i lannau’r afon ar gyfer ras rhif 163 rhwng y prifysgolion.

Bydd ras y dynion yn dechrau am 5.35pm, ar ôl ras y merched am 4.35pm.