Mae chwech o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ceisiwr lloches 17 oed, sydd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae pedwar dyn a dwy ddynes yn eu 20au yn cael eu holi yn y ddalfa yn ne Llundain.
Mae’r heddlu’n trin yr ymosodiad yn Croydon nos Wener fel trosedd o gasineb.
Mae lle i gredu bod y llanc o Iran ac o dras Cwrdaidd, a’i fod e’n aros am fws gyda dau ffrind pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Ar ôl darganfod ei fod e’n geisiwr lloches, dechreuodd y chwech redeg ar ei ôl e ac ymosod yn ffyrnig arno, a’i gicio a’i daro yn ei ben tra roedd e ar lawr.
Mae e wedi torri esgyrn yn ei ben ac wedi cael ceulad ar ei ymennydd.
Apêl
Cafodd tri dyn 20 oed, dynes 20 oed a dyn a dynes 24 oed eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac o anhrefn treisgar.
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.