Mae ceisiwr lloches ifanc mewn cyflwr difrifol yn dilyn ymosodiad sy’n cael ei drin fel trosedd o gasineb.
Roedd y llanc 17 oed yn aros am fws gyda dau ffrind yn Croydon pan ymosododd tua wyth o bobol arno.
Cafodd e anafiadau difrifol i’w ben, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty, tra bod ei ffrindiau hefyd wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad nos Wener.
Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn.
Mae Heddlu Scotland Yard wedi apelio am wybodaeth.