Khalid Masood (Llun: PA)
Roedd ymosodwr Llundain, Khalid Masood wedi gweithredu ar ei ben ei hun wrth drefnu’r ymosodiad 82 eiliad ar Lundain ddydd Mercher, yn ôl Heddlu Scotland Yard.

Dywedodd yr heddlu nad oes tystiolaeth i awgrymu bod rhagor o ymosodiadau wedi’u cynllunio.

Cafodd tri o bobol eu lladd a thros 50 o bobol eu hanafu ar ôl i Khalid Masood yrru i mewn i dorf ar bont Westminster, cyn trywanu’r plismon Keith Palmer i farwolaeth a chael ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Yn ôl yr heddlu, mae’n bosib na fyddan nhw fyth yn gwybod pam y digwyddodd yr ymosodiad.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Heddlu Scotland Yard fod angen “atebion” ar deuluoedd y rhai fu farw.

“Rhaid i ni dderbyn bod posibilrwydd na fyddwn ni fyth yn deall pam y gwnaeth e hyn. Mae’n bosib bod y ddealltwriaeth yna wedi marw gyda fe.”

Cyfryngau cymdeithasol

Mewn erthyglau heddiw, mae’r Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd a’r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson wedi galw ar gwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol fel Google a Facebook i fod yn fwy “rhagweithiol” wrth ddiddymu gwefannau eithafol.

Bu farw Keith Palmer, Aysha Frade, Kurt Cochran a Leslie Rhodes yn yr ymosodiad.

Mae dyn 58 oed yn y ddalfa o hyd, ac mae dynes 32 oed ar fechnïaeth yr heddlu wrth i’r ymchwiliad barhau.

Cafodd 11 o bobol eu harestio yn dilyn y digwyddiad, ond mae naw ohonyn nhw wedi cael eu rhyddhau’n ddi-gyhuddiad erbyn hyn.

Khalid Masood

Mae lle i gredu bod Khalid Masood, 52, wedi defnyddio sawl enw, a bod ganddo fe nifer o droseddau blaenorol ar gofnod.

Cafodd ei eni’n Adrian Elms, ond fe newidiodd ei enw’n ddiweddarach i Adrian Ajao cyn dod yn Khalid Masood wedi iddo gael ei radicaleiddio.