Canol pentre Trelech (Plucas58 Llun parth cyhoeddus)
Mae un o drigolion pentre’ Trelech ger Hendygwyn ar Daf wedi cadarnhau bod yr heddlu wedi bod yn brysur yn yr ardal ddoe.

Mae un papur newydd wedi cyhoeddi mai yn y pentre’ ger y ffin rhwng Sir Gaeerfyrddin a Sir Benfroi y mae cartre’ mam ymosodwr Llundain.

Ac fe ddywedodd y cynghorydd lleol, Jean Lewis, ei bod hi wedi cael cyngor i beidio â rhoi sylwadau.

Mae Golwg360 wedi ffonio’r ffermdy ond doedd neb yno’n fodlon siarad.

Gweld yr heddlu

“Mae’r heddlu wedi bod yn pasio trwy’r pentref,” meddai un bentrefwraig oedd am aros yn ddienw. “Weles i’r heddlu fy hunan, yn mynd lan trwy’r pentref. Dydyn ni ddim fel arfer yn gweld heddlu yn y pentref.”

Mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau eu bod wedi ymweld â thŷ yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin ar ôl yr ymosodiad gan Khalid Masood ond dydyn nhw ddim yn amau bod unrhyw gysylltiad rhwng y bobl yno a’r digwyddiad.

Yn ôl papur y Daily Mail, mae’r fam, Janet Ajao, yn cynnal busnes gwerthu bagiau a chlustogau o’r ffermdy yn Nhrelech.

Janet Elms oedd ei henw hi pan gafodd hi ei mab, Adrian, a newidiodd yntau ei enw i Khalid Masood ar ôl troi at Islam.