Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio bachgen blwydd oed a cheisio llofruddio merch fach.

Credir bod y bachgen a’r ferch yn efeilliaid.

Cafodd y ddau blentyn eu darganfod gydag anafiadau difrifol mewn fflat yn Heol Wilberforce yn Finsbury Park, gogledd Llundain nos Sadwrn.

Roedd Bidhya Sagar Das, 33 oed, o Heol Wilberforce wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Tafwys bore ma, gan gadarnhau ei enw yn unig.

Mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys yr Old Bailey ddydd Iau.

Cafodd y plant, sydd wedi cael eu henwi yn nogfennau’r llys, eu cludo i’r ysbyty ar ôl y digwyddiad ond bu farw’r bachgen, Gabriel Bibekdas Sonu, yn oriau mân fore dydd Sul.

Mae’r ferch, Tusidas Maria Das, yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar y bachgen, sydd heb gael ei adnabod yn ffurfiol, ddydd Mawrth.