Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i ddau ddyn gael eu hanafu’n ddifrifol mewn damwain beic modur yng Nghasnewydd yn oriau man y bore.

Daeth swyddogion yr heddlu o hyd i’r ddau ddyn am 01.50yb ar fore dydd Mawrth, 21 Mawrth, ar Heol Corporation wedi’r gwrthdrawiad yn ymwneud a beic modur Kawasaki gwyrdd.

Mae’r ddau ddyn, un yn 42 oed a’r llall yn 28, yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Bu Heol Corporation ynghau am rai oriau wrth i’r heddlu gynnal archwiliad o’r lleoliad, ond bellach mae’r ffordd wedi ailagor.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 29 ar gyfer 21/03/17.