Samata Ullah o Gaerdydd Llun: Heddlu Metropolitan/PA
Mae gŵr o Gaerdydd wedi cyfaddef cymryd rhan mewn gweithredoedd y grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) gan guddio deunydd brawychol mewn cyfflinc ar ei lawes.

Yn Llys yr Old Bailey fe wnaeth Samata Ullah, 34 oed, bledio’n euog i bum trosedd brawychol ynghyd â meddu ar ddeunydd at ddibenion brawychol cyn 22 Medi 2016.

Cyfaddefodd iddo fod yn aelod o IS ym mis Medi’r llynedd, o fod yn rhan o hyfforddiant brawychol ac o baratoi gweithredoedd brawychol.

Pan gafodd ei arestio ym mis Medi roedd yn gwisgo cyfflinc gyda chofbin (USB) arno oedd yn cynnwys system i guddio casgliad o ddata eithafol.

Cyhuddiadau

Clywodd y llys ei fod wedi creu fideos yn dangos sut i ddiogelu data a pharhau’n anhysbys ar y we o fis Rhagfyr 2015 ymlaen.

Fe blediodd yn euog hefyd o feddu ar lyfrau a deunydd electronig am hanfodion taflegrau, ac mae wedi cael diagnosis o awtistiaeth yn y cyfamser.

Fe wadodd y cyhuddiad o gyfarwyddo brawychiaeth rhwng Rhagfyr 2015 a Medi 2016 yn groes i adran 56 o Ddeddf Brawychiaeth 2000.

Mae ei ddedfryd wedi’i ohirio tan Ebrill 28 yn Llys yr Old Bailey.