Mae plentyn yn cael triniaeth mewn ysbyty am “anafiadau difrifol” yn dilyn gwrthdrawiad traffig yn Hwlffordd brynhawn ddoe.

Digwyddodd y ddamwain tua 3.45yh ddydd Sul, Mawrth 19, ar ffordd Sydney Rees Way.

Fe wnaeth fan Ford Transit wen wrthdaro â thri o gerddwyr – dynes a dau o blant.

Cafodd bachgen wyth oed ei gludo i  Ysbyty Llwynhelyg cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Cafodd y fam a’r plentyn arall hefyd eu cludo i Ysbyty Llwynhelyg gyda mân anafiadau.

Mae gyrrwr y fan hefyd wedi cael triniaeth rhagofal yn yr un ysbyty.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn galw ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar 101.